Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

12 Gorffennaf

 

 


Portffolios a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau yn y 4ydd Cynulliad

Rhagymadrodd

1.  Ar 22 Mehefin, cymeradwyodd y Cynulliad gynigion i sefydlu ei system o bwyllgorau.

2.  Mae’r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i holl feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth fod yn agored ar gyfer gwaith craffu o dan system bwyllgorau’r Cynulliad. Gan hynny, ni ddylai maes cyfrifoldeb yr un Gweinidog fod y tu allan i gyrraedd o leiaf un o bwyllgorau’r Cynulliad i gael ei archwilio. Ar yr un pryd, mae’r Pwyllgor Busnes yn bwriadu caniatáu ar gyfer archwiliadau trawsbynciol yn holl feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth. Felly, er bod yr adroddiad hwn yn nodi’r prif bwyllgor ym mhob un o feysydd bras cyfrifoldebau’r Gweinidogion, mae pob pwyllgor yn rhydd i ystyried unrhyw fater o’u safbwynt penodol nhw.

3.  Gellir crynhoi rolau craidd system bwyllgorau’r Cynulliad fel a ganlyn:

·         craffu ar Filiau ac ar gynigion deddfwriaethol eraill y Cynulliad, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gan gyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad gydag argymhellion ynghylch gwella’r rhain, ac ystyried a gwneud gwelliannau i Filiau;

 

·         edrych ar gyllid a pherfformiad rhannau perthnasol o Lywodraeth Cymru, y cyrff cyhoeddus perthynol a chyrff eraill sy’n berthnasol i Gymru; ac

 

·         ystyried a chyflwyno adroddiadau ar weithredu polisïau, deddfau ac ymrwymiadau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys nodi a chraffu ar feysydd polisi presennol neu newydd Llywodraeth Cymru, neu feysydd lle mae’r polisi presennol yn ddiffygiol, a gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau.

 

4.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi cylchoedd gorchwyl y gwahanol bwyllgorau’n fanylach.

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

5.  Rôl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.

Hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc

Tlodi plant

Gofal cymdeithasol i blant

Iechyd plant

Gwasanaethau mabwysiadu a maethu

Chwarae

Rhieni a theuluoedd

Gofal plant

Comisiynydd Plant Cymru

Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS)

Amddiffyn plant

Ysgolion, gan gynnwys safonau addysgu, cwricwlwm, llywodraethiant ac effeithiolrwydd

Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Anghenion dysgu ychwanegol

Cynhwysiant mewn ysgolion

Presenoldeb ac ymddygiad plant

Addysg y blynyddoedd cynnar

Dysgu 14-19

Gwaith ieuenctid

Materion polisi perthnasol yr UE

 

 

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

6.  Rôl Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.

Amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd

Adnoddau, rheolaeth ac ansawdd dŵr (gan gynnwys yr amgylchedd morol)

Bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a chadwraeth natur

Y Parciau Cenedlaethol

Cefn gwlad a mannau agored

Coedwigaeth

Rheoli gwastraff

Y polisi egni a thlodi tanwydd (gan gynnwys dur a glo)

Iechyd a lles anifeiliaid

Cynllunio a Rheoliadau Adeiladu

Newid yn yr hinsawdd

Datblygu cynaliadwy

Y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Materion polisi perthnasol yr UE


Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

7.  Rôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Gofal cymdeithasol

Gwasanaethau iechyd meddwl

Iechyd y cyhoedd a diogelu iechyd

Gwella iechyd

Gofalwyr

Gweithgareddau’r awdurdodau lleol ym maes gwasanaethau cymdeithasol

Rheoleiddio lleoliadau preswyl, lleoliadau mewn cartrefi a lleoliadau i oedolion

Cynorthwyon, addasiadau a chymorth yn y cartref

Byw yn annibynnol

Gofal yn y gymuned

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Diogelwch bwyd

Ymchwilio a datblygu mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Gwasanaeth iechyd y gwasanaeth carchardai

Materion polisi perthnasol yr UE

 


Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

8.  Rôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.

Tai a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thai

Digartrefedd a chyngor ar dai

Tai fforddiadwy (gan gynnwys eu hansawdd)

Llywodraeth Leol a Chymunedau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Gwella’r gwasanaethau cyhoeddus

Cyfle cyfartal

Trais domestig

Lloches, mewnfudo a gweithwyr mudol

Cydlynedd cymunedau

Diogelwch cymunedau

Sipsiwn a theithwyr

Diwylliant

Y Gymraeg

Treftadaeth Cymru a’r amgylchedd hanesyddol ac adeiladau

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifau

Y celfyddydau

Twristiaeth

Chwaraeon, gweithgarwch corfforol a hamdden weithredol

Gwasanaethau Tân ac Achub

Argyfyngau Sifil

Darlledu

Materion polisi perthnasol yr UE

 

Y Pwyllgor Menter a Busnes

9.  Rôl y Pwyllgor Menter a Busnes yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.

Busnes a menter, gan gynnwys buddsoddi o’r tu allan / allforio

Ymchwilio, datblygu ac arloesi

Addysg uwch

Technoleg a gwyddoniaeth

Adfywio strategol, adfywio ffisegol ac adfywio’r gwaddol

Cyflogaeth

Datblygu’r gweithlu

Sgiliau

Cymwysterau galwedigaethol

NEETS

Dysgu cymunedol i oedolion a dysgu yn y gwaith

Cyflogadwyedd a chyngor gyrfaoedd

Diwygio lles

Seilwaith TGCh

Cludiant

Menter gymdeithasol

Rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE

Materion polisi perthnasol yr UE


Y Pwyllgor Cyllid

 

10.     Rôl y Pwyllgor Cyllid yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut mae Comisiwn y Cynulliad neu Weinidogion Cymru’n defnyddio adnoddau ac yn benodol cyflwyno adroddiadau yn ystod cylch y gyllideb flynyddol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn cael ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru.

11.     O ran archwilio goblygiadau ariannol Biliau, mae’r Pwyllgor Busnes o’r farn y dylai’r Pwyllgor ddewis a dethol, gan hoelio sylw ar graffu ar y Biliau sydd â’r arwyddocâd ariannol mwyaf, a chymryd trosolwg strategol ar faterion ariannol sy’n ymwneud â deddfwriaeth.

 

 

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

12.     Rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 18. Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a baratoir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ynghylch darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor hefyd yn cynnwys pwerau statudol penodol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ynglŷn â phenodi’r Archwilydd Cyffredinol, cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol ac archwilwyr y swydd honno.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

13.     Rôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw cyflawni swyddogaethau penodol y pwyllgor cyfrifol yn Rheol Sefydlog 21 ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu ynglŷn â’r cymhwysedd hwnnw. Mae hyn yn cynnwys ystyried offerynnau statudol, offerynnau statudol drafft, unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a gyflwynir gerbron y Cynulliad, Biliau’r Cynulliad a’r Deyrnas Unedig yn ogystal â chylch gorchwyl ehangach i ystyried goblygiadau deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer sybsidiaredd a materion cyfansoddiadol eraill. Yn benodol, mae gan y Pwyllgor drosolwg hefyd ar swyddogaethau Prif Weinidog Cymru fel y mae’r rheiny’n ymwneud â materion cyfansoddiadol neu faterion cyffredinol y llywodraeth.

Y Pwyllgor Deisebau

14.     Rôl y Pwyllgor Deisebau yw pwyso a mesur yr holl ddeisebau derbyniadwy a gyflwynir gan y cyhoedd. Mae swyddogaethau penodol y Pwyllgor wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 23.

Y Pwyllgor Safonau

15.     Rôl y Pwyllgor Safonau yw cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22.  Mae’r rhain yn cynnwys ymchwilio i gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau, ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad Aelodau, sefydlu’r gweithdrefnau at ymchwilio i gwynion a’r trefniadau ar gyfer y Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus eraill a bennir gan y Rheolau Sefydlog.

Materion Ewropeaidd ac Allanol

16.     Cytunodd y Pwyllgor Busnes i brif-ffrydio materion polisi Ewropeaidd ar draws y pwyllgorau yn hytrach na chael un pwyllgor dynodedig. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fydd yn gyfrifol am wiriadau i fonitro sybsidiaredd yn ogystal ag ystyried unrhyw fater deddfwriaethol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu ynglŷn â’r cymhwysedd hwnnw.

Adolygu

17.     Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i adolygu sut mae’r system bwyllgorau’n gweithio yn 2012. Fel rhan o’r adolygiad, bydd yn ystyried effaith y penderfyniad i brif-ffrydio materion Ewropeaidd.

Rôl cadeiryddion y pwyllgorau

18.     Mae cadeiryddion y pwyllgorau’n chwarae rhan hanfodol i wireddu amcanion strategol y Cynulliad. O gofio hynny, a’r ffaith bod pob Cadeirydd yn cael ei ethol gan y Cynulliad cyfan, rydyn ni o’r farn ei bod yn briodol nodi’n fanylach y rôl y mae’n rhaid i gadeiryddion y pwyllgorau ei chyflawni ar ran y Cynulliad.

19.     Cyfrifoldebau allweddol cadeiryddion y pwyllgorau yw:

·      pennu cyfeiriad strategol y pwyllgor a sicrhau bod yna flaenoriaethau tryloyw i’w weithgareddau er mwyn gwireddu rhaglen gytbwys, gynhwysfawr ac effeithiol o waith craffu ar ddeddfau, polisïau a chyllid;

·      codi perthnasedd a dylanwad y pwyllgor i’r eithaf gan gadw ei annibyniaeth bendant oddi wrth Lywodraeth Cymru;

·      gweithredu’n ddiduedd bob amser, yn bendant, yn deg ac mewn modd sy’n ennyn hyder y pwyllgor;

·      ennyn hyder Aelodau, tystion a’r cyhoedd yn gyffredinol drwy feistroli’r pwnc sydd o dan sylw yng nghylch gwaith y pwyllgor; dangos technegau effeithiol mewn gwaith craffu ar ddeddfau, polisïau a chyllid; cadw trefn;  a chymhwyso’r holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol sy’n berthnasol i’r pwyllgor;

·      sicrhau ymroddiad ac ymrwymiad pob aelod o’r pwyllgor ac adeiladau consensws ar draws y pleidiau pryd bynnag y bo modd;

·      adeiladu’r cymysgedd o ddiwylliant a medrau yn y pwyllgor sy’n angenrheidiol i’w wneud mor effeithiol â phosibl fel corff sy’n gwneud gwaith craffu;

·      sicrhau bod y pwyllgor yn cael y cyngor arbenigol, yr wybodaeth a’r cymorth arall y mae arno ei angen i gyflawni ei amcanion yn effeithiol;

·      rhoi hwb i gyflawni pob agwedd ar waith y pwyllgor gyda chyflymder ac ansawdd;

·      cynrychioli’r pwyllgor yn gyhoeddus, yn y cyfryngau ac ym musnes ffurfiol y Cynulliad; a

·      sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn cael ei ddadansoddi a’i gloriannu’n feirniadol gan sbarduno arloesed yn ei waith er mwyn cynyddu ei effeithiolrwydd, ei ymgysylltiad cyhoeddus a’i effaith.